Rhestr Termau


Aflonyddu – ymosod drosodd a throsodd (gall fod ar lafar, yn emosiynol, yn gorfforol)
Ail oed gŵr neu wraig – cyfnod olaf bywyd
Anabledd – nam corfforol neu feddyliol
Anuniongyrchol – cuddiedig, dan yr wyneb
Apêl – ailagor achos, diwygio penderfyniad blaenorol
Arfer gwrth-wahaniaethol – ymddwyn mewn modd sy’n annog pobl i beidio â gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail hil, anabledd, lliw, rhyw, crefydd, ayyb.
Arsylwi – dull i gofnodi datblygiad person, ei dyfiant, ei ymddygiad, ayyb.
Asesiad – adroddiad wedi’i gyflawni i asesu anghenion unigolyn er mwyn medru rhoi gofal a darpariaeth addas iddynt.
Atebolrwydd – cyfrifoldebau gweithwyr i ymddwyn yn unol â gorchmynion eu corff proffesiynol
Awdurdod – grym neu hawl cyfreithiol
Awdurdodi – caniatáu i unigolyn wneud eu dewisiadau a’u penderfyniadau nhw’u hunain
Budd-daliadau – cyfraniadau ariannol statudol a roddir gan y llywodraeth i grwpiau penodol o bobl er mwyn rhoi cefnogaeth iddynt a’u galluogi i fyw yn y gymdeithas
Camdriniaeth – triniaeth sy’n gallu niweidio unigolyn
Cod Ymarfer – dogfennau cytûn sy’n datgan dulliau gweithio derbyniol o fewn lleoliadau gofal
Comisiwn – corff sy’n monitro Deddf, gall gynghori ac mae ganddo’r grym i ymchwilio i achosion
Confensiwn – cynulliad ffurfiol o gynrychiolwyr
Cwsmer – unigolyn sy’n defnyddio gwasanaeth iechyd neu wasanaeth gofal cymdeithasol
Cyfartal – trin pobl yr un fath, heb ystyried eu hil, crefydd, rhyw ayyb.
Cyfeirio – cael ei dderbyn i ysbyty neu wneud cais am wasanaeth gofal
Cyfeirio gan drydydd person – pan fydd claf yn cael ei gyfeirio gan ei berthynas agosaf
Cyfeirio gorfodol – pan fydd claf yn cael ei gyfeirio gan berson proffesiynol e.e. meddyg neu weithiwr cymdeithasol, gan fod y claf ym marn y bobl broffesiynol yn methu â phenderfynu beth i’w wneud drosto’i hun, oherwydd ei iechyd meddyliol
Cyfeirio proffesiynol – pan fydd claf yn cael ei gyfeirio gan berson proffesiynol, e.e. meddyg neu weithiwr cymdeithasol
Cyfnod mewn bywyd – cyfnod o dyfiant neu o ddatblygiad penodol
Cyllid – cefnogaeth ariannol sy’n cael ei rhoi er mwyn galluogi darpariaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Cynhwysiad – cymysgu â phawb arall
Cynlluniau gofal – prosesau cam-wrth-gam sydd wedi’u sefydlu er mwyn darparu gofal addas
Cyrff gofal – asiantaethau sy’n darparu gofal ar gyfer rhai grwpiau penodol o gwsmeriaid
Datblygiad – y broses o ddysgu sgiliau newydd
Datblygiad holistig – datblygiad corfforol, meddyliol, emosiynol, ieithyddol a chymdeithasol unigolyn
Deddf – cyfraith ysgrifenedig, wedi ei gwneud gan y Senedd
Deddfwriaeth – cyfreithiau a wnaed neu a gyflawnwyd
Dibynnydd – person sy’n dibynnu ar unigolyn arall am e.e. gymorth corfforol
Digwyddiad mewn bywyd – rhywbeth sy’n digwydd ym mywyd person, a all fod yn ddisgwyliedig neu’n annisgwyl
Diweithdra – bod heb gyflogaeth, a’r person hwnnw o oed gwaith
Diwygiad – gwelliant i Ddeddf neu Fesur, sy’n cywiro diffyg neu’n gwneud newid arfaethedig
Egwyddorion – codau ymarfer moesol wedi’u seilio ar werthoedd sylfaenol gofal, yr hyn a elwir bellach yn Egwyddorion Gofal
Egwyddorion Gofal – enw newydd am werthoedd sylfaenol gofal
Erledigaeth – gwneud i rywun ddioddef neu ei wneud yn ysglyfaeth
Erthyglau – datganiad neu adran o fewn Deddf
Esgeuluso – diystyru, peidio â gofalu am berson
Gofal anffurfiol – y gofal sy’n cael ei roi gan aelod o deulu neu gan ffrind ayyb.
Gofal dydd – darpariaeth i unigolion yn ystod y dydd e.e. meithrinfeydd, a chanolfannau dydd
Gofal eilaidd – y gwasanaeth sy’n cael ei rhoi mewn ysbytai neu gan ysbytai
Gofal iechyd cychwynnol – gofal wedi’i ddarparu gan feddygon teulu, nyrsys cymunedol, ymwelwyr iechyd ayyb.
Gofal personol – gofal sy’n ateb anghenion glendid sylfaenol unigolyn, e.e. ymolchi, golchi, mynd i’r tyˆ bach, ayyb.
Gofal trydyddol – gofal sy’n cael ei gynnig trwy wasanaethau ysbyty arbenigol
Gofal yn y cartref – gwasanaeth yn cynnig gofal yn y cartref o fewn y sector breifat
Gosodiad – disgrifiad ffurfiol, datganiad
Gwahaniaethiad – trin rhywun yn wahanol ac yn annheg, ar sail rhagfarn
Gwaharddiad – y weithred o atal neu wrthod mynediad
Gwarchod data – y broses o sicrhau cyfrinachedd, tra’n caniatáu i bobl gael mynediad i’w gwybodaeth bersonol
Gwasanaethau statudol – gwasanaethau gofal y mae’r llywodraeth yn rhwym o’u darparu
Gweithiwr allweddol – yr unigolyn wedi’i enwi sydd â’r cyfrifoldeb am gydlynu gofal cwsmer
Gwerthoedd sylfaenol gofal – casgliad o werthoedd sylfaenol sy’n amlinellu arferion da wrth ddelio â chwsmeriaid, e.e. trin cwsmeriaid yn barchus, gan hybu cydraddoldeb etc.
Hiliaeth – gwahaniaethu yn erbyn unigolyn neu grwˆp o bobl, neu drin unigolyn neu grwˆp o bobl yn annheg ar sail ei/eu hil
Hunan-gyfeirio – pan y bydd unigolyn yn cyfeirio’i hun i ofal gwasanaeth sy’n darparu gofal
Iechyd – yn ôl Mudiad Iechyd y Byd, ym 1948, iechyd ydy “cyflwr o ffyniant corfforol, meddyliol a chymdeithasol, yn ei gyfanrwydd, ac nid absenoldeb afiechyd neu wendid yn unig”
Iechyd corfforol – ffyniant y corff
Incwm – yr arian sy’n dod i mewn i gartref neu gydag unigolyn
Llencyndod – trydydd cyfnod bywyd
Lleoliadau gofal – llefydd sy’n darparu gofal i gwsmeriaid o bob oedran e.e. meithrinfeydd, cartrefi preswyl, ysbytai ayyb.
Llywodraeth – y gyfundrefn a ddefnyddir i redeg gwlad neu gymuned, grym llywodraethol gwladwriaeth
Magwraeth – datblygiad neu dyfiant wedi’i ddylanwadu gan ffactorau amgylcheddol
Mynediad/Hygyrchedd - pa mor rhwydd ydyw i gyrraedd rhywbeth/rhywle
Natur – datblygiad neu dyfiant wedi’i ddylanwadu gan geneteg
Neilltuo – y weithred o wahanu person oddi wrth eraill, weithiau yn erbyn eu hewyllys
Oed gwˆr neu wraig – pedwerydd cyfnod bywyd
Plentyndod – ail gyfnod bywyd
Prawf moddion – modd o fesur os yw unigolyn â’r hawl i gael budd-daliadau o ganlyniad i’w amgylchiadau
Proses o heneiddio – newidiadau yn y corff dynol dros gyfnod bywyd person
Rhagfarn – agwedd wahaniaethol tuag at rywun, wedi’i seilio ar syniadau rhagdybiedig
Rhywogaeth – gwryw neu fenyw
Sector Gofal Gwirfoddol – mudiadau sy’n darparu gwasanaethau gofal am ddim
Torri – torri cytundeb, rheol neu ddyletswydd
Tribiwnlys – llys cyfiawnder, bwrdd cynrychiadol sy’n delio ag apeliadau
Tyfiant – cynnydd mewn maint corfforol
Uniongyrchol – clir, agored, amlwg
Wedi’i gadw – wedi’i gyfyngu, ei gadw oddi wrth, neu ei gadw yn y ddalfa
Ymddygiad – y modd y mae pobl yn gweithredu neu ymddwyn