Cytundeb y CU ar Hawliau Plant 1989
Cytundeb am hawliau dynol yw Cytundeb y CU ar Hawliau Plant ac mae’n datgan yn glir bod gan blant hawliau penodol a bod yn rhaid i lywodraethau gyflawni’r hawliau hyn. Mae Cytundeb y CU ar Hawliau Plant yn cynnwys 54 o erthyglau gwahanol (datganiadau) sy’n amlinellu sut y dylai plant o dan 18 oed gael eu trin yn gyfartal o fewn cymdeithas, beth bynnag y bo’u hil, eu lliw eu hiaith, eu rhyw, eu crefydd, eu hanabledd, eu cefndir, eu barn wleidyddol neu farn arall, eu heiddo, eu genedigaeth neu statws arall.
Mabwysiadwyd dau brotocol dewisol ar y 25ain o Fai 2000. Mae’r un cyntaf yn cyfyngu ar y defnydd o blant mewn gwrthdaro milwrol, a’r ail un yn gwahardd gwerthu plant, y defnydd o blant fel puteiniaid a phornograffiaeth yn ymwneud, phlant. Rhoddodd dros 120 o daleithiau sÍl eu bendith ar y ddau brotocol.