Deddf Lwfans Teulu 1945/ Deddf Yswiriant Gwladol 1946/Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1948/ Deddf Cymorth Gwladol 1948


Roedd Deddf Lwfans Teulu 1945 yn sicrhau bod plant o dan 15 oed oedd yn dibynnu ar eu rhieni, plant rhwng 15 a 18 oed oedd yn dal i dderbyn addysg, a phlant h?n dros 15 oed nad oeddent yn gweithio, yn cael help oddi wrth y Lwfans Teulu a’r Lwfans Treth Plant. Bu i Ddeddf Yswiriant Gwladol 1946 greu strwythur y Wladwriaeth Les, gyda chynllun cyfraniadau i weithwyr, i gyflogwyr ac i’r llywodraeth. Bu i Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1948 sicrhau bod pobl Prydain yn cael diagnosis anhwylder a thriniaeth am ddim, boed hynny yn y cartref neu yn yr ysbyty. Crëwyd cynllun gan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 oedd yn darparu yn ariannol ar gyfer y bobl hynny oedd mewn tlodi dybryd, gan nad oedd y bobl hyn wedi’u cynnwys yn y Cynllun Yswiriant Gwladol.

Nid yw’r deddfau uchod wedi newid, ond cyflwynwyd deddfwriaeth newydd:

a) Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008

Mae Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 a Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trawsnewidiol) 2008 yn amlinellu’r amgylchiadau sy’n ofynnol er mwyn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

ESA sy’n cael ei dalu yn lle Budd-d‚l Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm oherwydd analluogrwydd neu anabledd, gyda cheisiadau newydd ers mis Hydref 2008. Bydd Budd-d‚l Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm yn dal i gael eu talu i gwsmeriaid sydd eisoes yn eu derbyn.

b) Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2006

c) Newidiwyd Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau ‘l-ddilynol) 2006 yn Ebrill 2007.

Cafodd y rhan helaeth o’r deddfau iechyd a basiwyd ers 1977 eu crynhoi o fewn y tair Deddf Seneddol uchod, a ddaethant i rym ym Mawrth 2007.