Deddf Hawliau Dynol 1998
Yr un yw’r hawliau sylfaenol sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf Hawliau Dynol 1998 â’r rheiny sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae’r Ddeddf yn effeithio ar faterion yn ymwneud â byw a marw, rhyddid a phoenydio, a hefyd hawliau’r unigolyn mewn bywyd bob dydd. Egwyddor pennaf y Ddeddf yw y dylid sicrhau cysondeb gyda hawliau’r Confensiwn lle bynnag y bo modd gwneud hynny.
Gweithredwyd diwygiadau i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 yn 2000. Bellach mae’r Ddeddf yn gofyn bod llysoedd a thribiwnlysoedd yn cyhoeddi dyfarniadau gan ddefnyddio rhai o erthyglau’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel man dechrau.