Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiadau) 2000 a 2003
Mae Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu hiliol, boed hwnnw’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ym meysydd tai, gwaith, addysg a darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau. Aeth Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiadau) 2000 gam ymhellach, gan wahardd gwahaniaethu hiliol ym mhob gwaith cyhoeddus. Ychwanegwyd at y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol gan Reoliadau Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiadau) 2003 sy’n newid diffiniad gwahaniaethu anuniongyrchol a newid amodau defnyddio’r baich prawf, yn ogystal â dileu nifer o eithriadau yn y ddeddfwriaeth.