Deddf Cyflog Cyfartal 1970


Prif nod Deddf Cyflog Cyfartal 1970 oedd sicrhau bod dynion a menywod yn yr un swydd yn derbyn yr un tâl wrth wneud yr un gwaith, neu waith sy’n cael ei gyfri’n gyfartal yn ôl astudiaeth ddadansoddol i asesu’r swydd, neu waith y gellir ei brofi’n gyfartal. Yr amcan oedd gwella safle’r wraig ym myd gwaith gan anghyfreithloni gwahaniaethu rhwng dynion a menywod.