Deddf Pobl Anabl 1944-1986/Deddf y Cleifion ar Anabl Cronig 1970. Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000
Nod Deddfau Pobl Anabl (Cyflogaeth) 1944 a 1958 oedd gwella hawliau a chyfleoedd gwaith pobl gydag anableddau ac anawsterau. Mae Deddf Pobl Anabl 1986 yn cryfhau darpariaeth Deddf y Cleifion a’r Anabl Cronig 1970 ac yn mynnu bod Awdurdodau Lleol yn asesu anghenion amrywiol pobl anabl ac yn ceisio cyfarfod â nhw a monitro ac adolygu eu hanghenion. Rhydd Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl y grym i awdurdodau lleol ddarparu rhai gwasanaethau penodol yn uniongyrchol i’r gofalwyr, yn dilyn asesiadau.v
Daeth deddf arall ar gyfer Gofalwyr i rym yng Nghymru yn Ebrill 2005, sef Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004. Mae’r Ddeddf hon yn rhoi hawliau newydd i ofalwyr gael gafael ar wybodaeth e.e. yr Asesiad Gofalwyr.