Deddf Gwarchod Data 1984 a 1998/ Deddf Ryddid Gwybodaeth 2000
Mae’r Ddeddf Gwarchod Data yn rhoi sail gyfreithiol ar gyfer trin gwybodaeth am bobl sy’n dal yn fyw. Mae’n rhoi modd i unigolion geisio rheoli gwybodaeth amdanyn nhw’u hunain ac mae hefyd yn rhoi’r hawl i bob unigolyn gael gweld unrhyw wybodaeth bersonol sydd wedi’i chasglu amdanynt. Mae Deddf Ryddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl gyffredinol i ymgeiswyr gael mynediad i bob math o wybodaeth wedi’i chofnodi ac sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus, ar bapur ac ar gyfrifiadur.