Deddf Plant 1989 a Deddf Plant 2004


Ceisiodd Deddf Plant 1989 sicrhau mai lles plant oedd yn cael y flaenoriaeth, gan weithio mewn partneriaeth gyda rhieni er mwyn gwarchod y plentyn rhag niwed. Nod y ddeddf oedd cryfhau statws cyfreithiol y plentyn, rhoi hawliau cyfartal iddo/iddi, yn ogystal â theimladau cyfartal a dymuniadau cyfartal, a sicrhau bod ymgynghori â’r plant yn digwydd a’u bod yn cael gwybodaeth yn gyson am ddatblygiadau. Mae Deddf Plant 2004 yn ceisio gwella bywydau plant ymhellach gan roi sail gyfreithiol i’r ddogfen ‘Every Child Matters: Change for Children’ (2004).

Cafwyd rhai newidiadau strwythurol mewn ymateb i Ddeddf Plant 2004 sy’n golygu bod addysg a gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi’u huno ers Ebrill 2006, ag un cyfarwyddwr gwasanaethau plant yn gyfrifol am y ddeubeth ym mhob awdurdod lleol.

Cyflwynwyd Deddf Plant a Phobl Ifainc 2008 hefyd.  Ei phrif nod yw gweithredu’r argymhellion a amlinellwyd yn y Papur Gwyn, ‘Care Matters: Transforming the Lives of Children and Young People in Care’,ac mae’n rhan o gynllun y Llywodraeth i sicrhau bod plant a phobl ifainc yn derbyn gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer lles plant a phobl ifainc, a maethu preifat.  Canolbwyntia’n benodol ar bobol ifainc h_n mewn gofal, a’r rheiny sy’n gadael gofal.

Dyma ddeddfau eraill sydd ‚ chysylltiad agos ‚’r Ddeddf Plant:
a) Deddf Amddiffyn Plant 1999
b) Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006
c) Deddf Gofal Plant 2006