Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
Prif nod Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yw mynd i’r afael â thor-cyfraith ac anhrefn er mwyn creu cymunedau mwy diogel. Rhydd y ddeddf rwymedigaeth statudol ar i awdurdodau lleol a phrif swyddogion heddluoedd weithio gyda’i gilydd i ddatblygu strategaeth i leihau tor-cyfraith ac anhrefn, a rhoi’r strategaeth mewn grym. Cyflwynodd y ddeddfwriaeth Orchmynion Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol, Gorchmynion Troseddwr Rhyw a Gorchmynion Rhieni.