Deddf Amddiffyn Plant 1999/Deddf Gadael Gofal 2000/Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
Bu i Ddeddf Gwarchod Plant 1999 gyflwyno Rhestr y Ddeddf Gwarchod Plant, ble mae dyletswydd ar i’r Ysgrifennydd Gwladol gofnodi enwau’r unigolion hynny y’u hystyrir yn anaddas i weithio gyda phlant. Bellach, gall pob corff sy’n ymwneud â gofal plant wirio enwau’r darpar gyflogedig trwy gyfrwng y Ganolfan Cofnodion Troseddol. Mae Deddf Plant (Gadael Gofal) 2000 yn rhoi’r dyletswydd ar i’r awdurdodau lleol asesu a diwallu anghenion pobl ifainc 16 ac 17 oed sydd mewn gofal neu’n gadael gofal a rhaid i’r awdurdodau lleol hefyd gadw cysylltiad â nhw tan iddynt gyrraedd 21 oed. Bu i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 foderneiddio’r holl fframwaith gyfreithiol ar gyfer mabwysiadu yn y DU yn ogystal â mabwysiadu rhyngwladol.