Deddfau Addysg 1921-2002


_Bu i’r Ddeddf Addysg gyntaf (1921) ddiffinio pum categori o blant anabl y gellid eu gosod mewn cartrefi preswyl. Yn ôl Deddf Addysg diwygiedig 1944, diffiniwyd 11 categori o anabledd ac anghenion addysg arbennig mewn plant y dylid eu gosod mewn sefydliadau neu ysbytai. Bu i ddiwygiad 1970 gynnwys plant ag anableddau meddyliol mwy difrifol. Newidiwyd y ddealltwriaeth o anghenion arbennig gan Ddeddf Addysg 1981, gan roi mwy o rym i rieni a chan fynnu bod athrawon yn monitro ac yn asesu anghenion arbennig plant. Bu i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 gyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol a rhoi mwy o rym i ysgolion.

Mae Deddf Addysg 2005 yn symleiddio’r broses o wella ysgolion ac yn cryfhau’r fframwaith atebolrwydd ar gyfer ysgolion, yn benodol trwy newid yr agwedd wrth arolygu ysgolion.

Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 hefyd yn cyflwyno diplom‚u arbenigol ar gyfer addysg 14-19 ac mae’n adolygu’r gyfraith ynglyn‚ disgyblaeth ysgol a chytundebau magu plant.