Deddf Iechyd Meddwl 1983
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn ymdrin â derbyn, gofalu am, a thrin pobl â salwch meddwl, yn ogystal â rheoli eu heiddo a materion sy’n gysylltiedig. Yn benodol, mae’n cynnwys y ddeddfwriaeth sy’n galluogi i bobl â salwch meddyliol gael eu gorfodi i aros yn yr ysbyty, cael asesu eu hanhwylder a chael eu trin yn groes i’w dymuniad, yr hyn a elwir yn answyddogol yn ‘neilltuo’.
Diwygiwyd Deddf Iechyd Meddwl 1983 gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007.
Dyma rai o’r prif newidiadau:
diffiniad anhrefn meddyliol: gwaharddwyd cyfeiriadau at gategorÔau anhrefn, fel bod un diffiniad yn unig yn cael ei ddefnyddio gydol y Ddeddf;
y meini prawf ar gyfer ataliaeth: cyflwynwyd prawf ‘triniaeth feddygol addas’ newydd, a fydd yn orfodol wrth ddefnyddio’r grymoedd atal hir-dymor i gyd. O ganlyniad, ni fydd yn bosib gorfodi i gleifion gael eu hatal, nac i barhau i’w hatal, heb sicrhau argaeledd triniaeth feddygol i’r claf, a honno’n gweddu i anhrefn meddyliol y claf a holl amgylchiadau eraill yr achos. Ar yr un pryd, bydd y ‘prawf hydrinedd’ fel y’i adwaenir, yn cael ei wahardd;
rolau proffesiynol: ehangwyd y grwp o ymarferwyr sy’n gallu cyflawni’r gwaith a gyflawnir ar hyn o bryd gan y gweithiwr cymdeithasol swyddogol a’r swyddog meddygol cyfrifol;
perthynas agosaf: mae gan glaf yr hawl i wneud cais i’r llys sirol i ddisodli’i berthynas agosaf, a gall y llys sirol ddisodli perthynas agosaf os yw o’r farn nad yw’n gymwys i weithredu yn y rÙl;
perthynas agosaf: newidiwyd y meini prawf ar gyfer penderfynu pwy yw’r perthynas agosaf er mwyn cynnwys partneriaid sifil ar y rhestr perthnasau;
gwasanaethau sy’n gweddu i oed y defnyddwyr: rhaid i reolwyr ysbytai sicrhau bod cleifion o dan 18 oed sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd anhrefn meddyliol yn cael eu rhoi mewn lle sy’n gweddu i’w hoedran (yn dibynnu ar eu hanghenion). Disgwylir i hyn gael ei weithredu yn Ebrill 2010.