Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004/ Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995


Mae Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004 yn mynnu mai cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw rhoi gwybod i’r gofalwyr bod hawl ganddynt gael Asesiad Gofalwyr, a sicrhau bod anghenion y gofalwr am addysg, hyfforddiant, gwaith a hamdden yn cael eu hasesu a’u cefnogi. Mae Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 yn cydnabod rôl y gofalwr answyddogol, ac mae’n argymell asesu gallu gofalwyr i ddarparu gofal addas a digonol.