Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990


Bu i Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 rannu rôl yr awdurdodau iechyd a’r awdurdodau lleol gan newid eu strwythur mewnol, er mwyn i adrannau’r awdurdod lleol asesu anghenion y boblogaeth leol a wedyn prynu’r gwasanaethau angenrheidiol oddi wrth y ‘darparwyr’. Er mwyn bod yn ‘ddarparwr’ yn y farchnad fewnol, roedd yn rhaid i sefydliadau iechyd newid i fod yn ymddiriedolaethau’r GIG, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae gofal cymunedol yn sicrhau bod pobl sydd ag angen am ofal hir-dymor bellach yn gallu byw naill ai yn eu cartrefi nhw’u hunain gyda gofal a chefnogaeth digonol neu mewn cartref preswyl.