Deddf Safonau Gofal 2000
Bu i Ddeddf Safonau Gofal 2000 ddiwygio’r gyfundrefn arolygu a rheoli gwasanaethau gofal yn y DU, gan gynnwys cartrefi preswyl i blant, ysbytai annibynnol, cartrefi nyrsio, cartrefi gofal preswyl ac ysgolion preswyl.
O’r 1af o Ebrill 2009, bydd corff newydd o’r enw’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CAG) yn gyfrifol am reoleiddio gofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. Sefydlwyd y CAG gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.
Bydd y CAG yn cyfuno gwaith
y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol;
y Comisiwn Gofal Iechyd;
Comisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl.