Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995


Nod Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 oedd dod â gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau i ben, trwy roi’r wybodaeth berthnasol iddynt a’u helpu i sicrhau triniaeth decach yn y ddarpariaeth o nwyddau, gwasanaethau, gwaith, addysg, cludiant a thai. Ymestynwyd cryn dipyn ar y Ddeddf hon erbyn hyn a rhaid bellach i gyrff cyhoeddus hybu cyfleoedd cyfartal i bobl anabl. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn caniatáu i’r llywodraeth bennu safonau er mwyn i bobl anabl fedru defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hwylus.v

Diwygiwyd Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 gan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005. Mae’r Ddeddf hon yn adeiladu ar ac yn ymestyn deddfwriaeth gynharach am wahaniaethu ar sail anabledd, yn bennaf, Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.