Deddfau Addysg 1921, 1944, 1970, 1981, 1988, 2002


Daeth y Ddeddf Addysg gyntaf i rym yn 1921, ac ynddi diffiniwyd pum categori o anabledd. Yn 1944, cyflwynwyd Deddf Addysg ddiwygiedig. Diffiniodd y Ddeddf hon 11 categori o anabledd, gan gynnwys plant byddar, dall, dan anfantais gorfforol, epileptig, diabetig ayyb. Yn 1970 diwygiwyd y Ddeddf unwaith eto i gynnwys plant ag anableddau meddwl mwy difrifol. Newidiodd Deddf Addysg 1981, a ddaeth yn sgil Adroddiad Warnock, gysyniad anghenion arbennig. Ceisiodd roi mwy o rym i rieni, fel partneriaid yn addysg eu plant. Ddeddf Diwygio Addysg 1988 cyflwynwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol a rhoddwyd mwy o rym i ysgolion. Diwygiwyd y Ddeddf Addysg ymhellach yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel y gwelir ym Mhapur Gwyn 2002.