Deddf Plant 1989
Mae’r Ddeddf hon yn ceisio sicrhau mai lles y plentyn sydd bwysicaf. Yn ogystal, mae’n ceisio gweithio mewn partneriaeth â rhieni ac i ddiogelu’r plentyn rhag niwed. Bwriad y Ddeddf yw cryfhau safle cyfreithiol y plentyn ac i roi iddo/iddi hawliau, teimladau a dymuniadau cyfartal. Y mae hefyd yn annog plant i wneud eu penderfyniadau eu hunain, i gael eu holi am eu barn ac i gael gwybod am bopeth sy’n digwydd iddynt.